1 Ef a aeth heddiw yn ddiwael
2 gyda Rhys i gadw'r hael
3 O frodyr ffydd a rhai maeth
4 A cheraint mav awch hiraeth
7 Brehyrion weilch beilch bylchgrwydr
8 Breinolion brodorion brwydr
9 Mab gogan mae bygegyr
10 Gyda chwi o gedwch wyr
11 Yn elyn dianwylyd
12 i fardd bvn ac i feirdd byd
5 i mi i ymwrdd a ffraingc
6 Or deav Mair a'i diaingc
13 vn llygad kymyniad cawdd
14 Ac vnclust yw ar ganclawdd
15 A chorn celwyddbwyll pwyll pwl
16 A chospwr bvn a'i cheispwl
17 Pa sawl gwaith rhag trymfaith trwch
18 I ffoais gynt
y coffewch
19 Rhagddaw'r cawell yscaw cav
20 A'i dylwyth fal medelau
21 Bid iddaw yn ei law lwyth
22 O faw diawl ef a'i dylwyth
23 [88v] Od â ai enaid baid banw
24 Ir lwydlong wyllt erlidlanw
25 llywydd ni hir gydfydd hi
26 llvn ei hwyl yn llawn heli
27 Gwisc ei phen fo'r ffrwd wen wawl
28 Gwsgwynnes y gwaisc anawl
29 Ni cherdda ni hwylia hi
30 trychanddyn er trwch ynddi
31 Gwthier ef ai gwthr afangc
32 dros y bwyrdd ar draws y bangc
33 Y don hael adain heli
34 Y tal a ddylwn i ti
37 Seithffrwd aig trywanwraig trai
38 Saig nawton a'i sugn attai
39 O don i don edn svgyndraeth
40 Od â i ffraingc y dv ffraeth
41 Ysaw long henfagl y sydd
42 hoenyn fo ei ddihenydd
43 meddyliwch graff braff broffes
44 Am ei ladd gwnewch ymy les
45 Ac na edwch y cwch cav
46 [89r] I'm deol am em deav
47 Tithau albrysiwr tvthia
48 Tafledydd defnyddwydd da
51 Brath y lleidr drwy ei neidrwydd
52 Beth ddawr ei ladd bydd gawr gwydd
53 Trywana na fetha fath
54 Traidd ar albras trwyddo'r eilbrath
55 Adnebydd saethydd sytharf
56 sythion blew feinion ei farf
57 Diddan i'm ei drigian draw
58 Deuddeg anhawddfyd iddaw
59 Diddestl fardd ffannvgl gruglwyn
60 Dydd a fu nid oedd ei fwyn
61 Diddig fydd bardd hardd o hyn
62 Diddel adref i'w dyddyn
63 ffrwyn eiddig cloedig clod
64 ffriw ddiwyn o ffraw ddywod
65 Wrth wynn nis car lafar lef
66 Y dv leidr y del adref
Da' ap Glm'